• This website is available in English

Am ein cwmni

Rydym yn gwmni llywodraeth leol Cymru sydd â Bwrdd Cyfarwyddwyr wedi eu hethol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Darperir y rheolaeth weithredol o ddydd i ddydd gan y Cyfarwyddwr Gweithredol gyda cefnogaeth y Gyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Grŵp Arweinyddiaeth Strategol.

Rydym yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol, gan gynnwys

  • Cymorth i gyrchu, casglu neu goladu data
  • Dadansoddi data
  • chyflwyno data’n effeithiol
  • Cyngor ar sut orau i ymgymryd ag ymchwil
  • Cymorth i ddarganfod beth mae dinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth/ cwsmeriaid yn meddwl
  • Hyfforddi’ch staff mewn pynciau perthnasol fel Ystadegau Sylfaenol, Cyflwyno Data, Rheoli Perfformiad, Dylunio a Dadansoddi Arolygon, Dylunio Holiaduron ac ati
  • Darparu mynediad cost-effeithiol i amrediad o setiau data masnachol.

Cyfarwyddwyr Cwmni a benodwyd gan Gydmeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC):

  • Cynghorydd Colin Mann – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cynghorydd Geraint Hopkins – Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Cynghorydd Jane Mudd - Casnewydd Gyngor Dinas
  • Cynghorydd L Mair Stephens - Cyngor Sir Gâr
  • Cynghorydd Richard Clark - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Cynghorydd Neil Prior - Cyngor Sir Penfro
  • Cynghorydd Nigel Smith - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cynghorydd Julian Thompson-Hill - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyfarwyddwyr Cyfetholedig:

  • Steve Thomas CBE - Prif Weithredwr, CLlLC

Mae nifer o ymgynghorwyr yn cefnogi'r Bwrdd yn ei holl weithgareddau:

  • Dr Dawn Jones - Prifysgol Glyndŵr
  • Huw Rees - Swyddfa Archwilio Cymru
  • Jonathan Rae - CLlLC
  • Dr Rhys Andrews - Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Safon Amgylcheddol Y Ddraig Werdd

O ganlyniad i symud swyddfa rydym wrthi’n adolygu’n Polisi a Datganiad Amgylcheddol.

Ar hyn o bryd mae gennym Safon Amgylcheddol Lefel 4 y Ddraig Werdd.

O’r 25 Ionawr 2017, mae’r Uned Ddata wedi ymrwymo i Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Safonau yma yn gosod disgwyliadau pendant arnom ni i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’n cwsmeriaid ac i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau.

Mae’r safonau iaith mae rhaid i ni gydymffurfio â wedi eu rhannu yn y pedwar dosbarth canlynol:

  • Cyflenwi Gwasanaethau
  • Llunio Polisi
  • Gweithredu
  • Cadw Cofnodion

Ceir manylion y safonau, sut rydym yn cydymffurfio â hwy a sut rydym yn bwriadu monitro ein cydymffurfiaeth yn y ddogfen Ein Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a sut rydym yn cydymffurfio.

Croesawn ohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg a byddwn yn ymateb i ohebiaeth yn yr un iaith. Ni fydd defnyddio’r naill iaith na’r llall yn arwain at oedi.

Ein pobl yw ein hased pennaf. Seilir ein polisïau a’n harferion ar egwyddorion cydraddoldeb a lles, gan sicrhau bod gan ein holl bobl brofiad gwaith cadarnhaol.

Rydym yn annog ac yn hyrwyddo datblygiad staff er mwyn darparu safonau gwasanaeth uchel. Rydym wedi cadw ein statws Buddsoddwyr mewn Pobl yn ddi-dor ers 2001.

Rydym yn cydnabod mai gwaith yw un agwedd yn unig ar fywyd rhywun – felly rydym wedi ceisio sicrhau bod gan ein pobl y rhyddid a’r hyblygrwydd i gyflawni eu gwaith yng nghyd-destun eu bywyd tu allan i’r gwaith. Er bod gennym ffocws cryf ar gyflawni, mae ein polisïau a’n hisadeiledd wedi eu dylunio i gefnogi gwaith hyblyg, o bell, gan ei gwneud yn haws i’n pobl gydbwyso galwadau cartref a gwaith.

Ein swyddfa gofrestredig ni yw: Tŷ Llywodraeth Leol, Rhodfa Drake, Caerdydd, CF10 4LG.

Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warrant.

Rydym wedi ein cofrestri yng Nghymru - rhif 4082312.

Manylion cyswllt
Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru
Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd
CF10 4LG
Deyrnas Unedig
Ffôn: 029 2090 9500
Ebost: ymholiadau@unedddatacymru.gov.uk
Sut i ddod o hyd i ni